Heddiw dyn ni wedi dod i Lanerchaeron, Ceredigion. Mae Llanerchaeron ger tref Aberaeron, Ceredigion.
Yn 1634 prynodd Llewelyn Parry y tŷ a’r gerddi am £140. Yn 1793 daeth y pensaer, John Nash i weithio ar y tŷ. (John Nash oedd pensaer y Brighton Pavilion a Buckingham Palace.)
Heddiw, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n rhedeg Llanerchaeron. Dych chi’n gallu mynd o gwmpas i weld y tŷ, y gerddi, y parc a’r fferm.
Yn y tŷ dych chi’n gallu gweld yr ystafelloedd ble roedd y teulu yn byw ac yn cysgu a’r ystafelloedd ble roedd y gweision yn byw ac yn gweithio. O gwmpas y tŷ mae llawer o hen gelfi a lluniau.
Dych chi’n gallu cerdded o gwmpas y fferm a’r hen adeiladau. Mae gwartheg, defaid a moch yma a dych chi’n gallu prynu cig ffres yn siop y fferm. Maen nhw’n tyfu llawer o ffrwythau a llysiau organig yn y gerddi ac maen nhw hefyd yn y siop.
Mae parc, llyn a gerddi yn Llanerchaeron; mae e’n lle braf iawn i fynd am dro. Mae pethau yn digwydd yn Llanerchaeron drwy’r flwyddyn. Dych chi’n gallu aros yn Llanerchaeron a dych chi hefyd yn gallu priodi yma.
Diolch i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am eu help ac am y lluniau.
Ar agor:
Chwefror – Hydref
Mercher – Sul
11:00 – 17:00
Geirfa
prynodd – bought
gerddi – gardens
pensaer – architect
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
– The National Trust
gweision – servants
adeiladau – buildings
celfi – furniture
gwartheg – cattle
defaid – sheep
moch – pigs
priodi – to marry