Entry (South) How to grow carrots

Mynediad (De) / Entry (South) – How to grow carrots in a bin.

Dyma sut i dyfu moron hir mewn bin:

  • Mae’r moron yn tyfu i lawr yn hirach na’r bin…
    felly mae’n rhaid i chi dorri gwaelod y bin i ffwrdd.
  • Nawr, mae’n rhaid i chi wneud twll yn yr ardd tua 1 metr o ddyfnder.
    Llenwch y twll a’r bin gyda thywod.
    Gwnewch dyllau yn y tywod gyda pholyn hir.
  • Nawr – y compost.
    Rhowch y compost drwy ridyll.
    Os oes lwmp yn y compost, mae’r moron yn mynd i dyfu’n gam!
  • Nawr, llenwch y tyllau gyda’r compost.
    Rhowch 2 hedyn ar ben y compost ym mhob twll.
    Rhowch ychydig o gompost ar ben yr hadau.
  • Cofiwch roi dŵr i’r hadau!
  • Pan mae’r moron yn dechrau tyfu…
    tynnwch y planhigyn gwan o bob twll i roi lle i’r moron cryf dyfu.
tyfu  –  to grow
hirach na  –  longer than
gwaelod  –  bottom
twll/tyllau  –  hole/holes
o ddyfnder  –  deep (of depth)
llenwch  –  fill
tywod  –  sand
polyn  –  pole
rhidyll  –  sieve
cam  –  crooked
hedyn/hadau  –  seed/seeds
tynnwch  –  pull
gwan  –  weak
cryf  –  strong
lle  –  room