Mynediad (De) / Entry (South) – Sw Môr Môn / Anglesey Sea Zoo
Heddiw dyn ni wedi dod i Sw Môr Môn ger Brynsiencyn, Ynys Môn. Yma yn y sw dych chi’n gallu gweld y pethau sy’n byw yn y môr o gwmpas Ynys Môn a gogledd Cymru – pysgod, siarcod, octopysau, cimychiaid, crancod a morfeirch.
Mae rhywbeth yma i bawb. Mae e’n lle da i grwpiau achos mae’r staff yn gallu siarad am yr anifeiliaid a’u bywydau. Dych chi hefyd yn gallu gwylio’r staff yn rhoi bwyd i’r anifeiliaid bob dydd.
Mae’r sw hefyd yn dysgu pobl am y môr o gwmpas Ynys Môn. Maen nhw’n bridio cimychiad yma ac maen nhw hefyd yn helpu anifeiliaid y môr sy’n sâl neu mewn trwbwl.
Yn y sw mae caffi ble maen nhw’n paratoi bwyd lleol. Mae siop yma hefyd ble dych chi’n gallu prynu anrhegion. Y tu allan i’r sw mae lle i’r plant chwarae a lle i oedolion eistedd ac edrych ar y môr.
Sw Môr Môn
Brynsiencyn, Ynys Môn
LL61 6TQ
01248 430411
Diolch i Sw Môr Môn am eu help
Ynys Môn – Anglesey
o gwmpas – around
octopysau – octopuses
llyswennod – eels
cimychiaid – lobsters
crancod – crabs
morfeirch – seahorses
bywydau – lives
bridio – to breed
lleol – local
anrhegion – gifts
oedolion – adults