Hanes yr Iaith

Mae’r iaith Gymraeg tua 1500 oed. Datblygodd y Gymraeg o’r Frythoneg – iaith roedd pobl yn ei siarad ar draws Prydain – tua’r chweched ganrif [6G].

Dros ei 1500 mlynedd o fodolaeth mae ei defnydd fel iaith bob dydd a iaith gweinyddu wedi gweld llanw a thrai, wrth iddi geisio bodoli ochr yn ochr ag un o ieithoedd mwyaf grymus y byd – Saesneg.

Bu rhai’n darogan ei thranc ers blynyddoedd lawer, rhai’n dymuno ei gweld yn diflannu oddi ar wyneb y ddaear, ac eraill yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau ei pharhad.

Ond, drwy bob storm a gormes, mae’r Gymraeg wedi goroesi ac wedi esblygu ac – yng ngeiriau’r canwr, Dafydd Iwan – ‘yma o hyd’!

Y Cyfnod Cynnar

Cymraeg Cynnar (c.550 – 800) a Hen Gymraeg (800 – 1100) ydy’r enwau sy’n cael eu rhoi i’r cyfnod rhwng y chweched a dechrau’r ddeuddegfed ganrif [12G].

Roedd y Gymraeg yn iaith bob dydd y bobl ac yn iaith ar gyfer barddoniaeth, rhyddiaith a gweinyddu. Mae enghreifftiau o Gymraeg y cyfnod yma i’w gweld mewn llawysgrifau Lladin megis ‘Llyfr Sant Chad’ neu mewn llawysgrifau mwy diweddar sy’n gopïau o waith cynharach, megis ‘Llyfr Llandaf’.

Mae un o’r enghreifftiau cynharaf o destun cwbl Gymraeg i’w gweld ar garreg fedd yn eglwys Cadfan Sant, Tywyn yng Ngwynedd.

Roedd gan yr Eglwys Geltaidd rôl bwysig wrth gofnodi a chopio testunau Cymraeg. Mae’r nifer fawr o enwau llefydd sy’n cynnwys enw’r eglwys a’i nawddsant yn dangos yn glir y berthynas rhwng Cristnogaeth, y bobl a’r Gymraeg.

Roedd beirdd fel Aneirin, Taliesin, Llywarch Hen a Heledd yn cyfansoddi barddoniaeth drwy’r cyfnod yma ond traddodiad llafar oedd hwn; cafodd yr enghreifftiau sy i’w gweld heddiw eu cofnodi yn y cyfnod nesaf.

Roedd pobl – cyfarwyddiaid – hefyd yn adrodd storïau fel ‘Pedeir Keinc y Mabinogi’, ond mae’r enghreifftiau cynharaf o’r storïau yma hefyd yn dod o’r cyfnod nesaf.

Y Cyfnod Canol

Cymraeg Canol ydy’r cyfnod rhwng tua 1100 a 1536.

Mae’r cyfnod yma yn cynnwys oes aur Tywysogion Cymru lle roedd y Gymraeg yn iaith gweinyddu a iaith bob dydd a chyfnod yr Uchelwyr – y cyfnod ar ôl lladd Llywelyn ap Gruffudd yn 1282.

“Cyfraith Hywel” ydy’r enw ar gyfreithiau Cymru. Hywel ap Cadell neu Hywel Dda – Brenin Cymru (942-950) – oedd y dyn wnaeth ddod â’r cyfreithiau at ei gilydd. Roedd fersiwn Cymraeg a Lladin o’r cyfreithiau. Mae’r copi cynharaf o’r fersiwn Cymraeg mewn llawysgrif o’r drydedd ganrif ar ddeg [13G], Llawysgrif Peniarth 28.

O’r cyfnod yma hefyd mae llawysgrifau sy’n cynnwys Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Coch Hergest a Llyfr Du Caerfyrddin. Yn y llyfrau yma mae llawer o’n barddoniaeth gynnar a chwedlau fel ‘Pedeir Keinc y Mabinogi’ i’w gweld.

Yn hanes barddoniaeth Gymraeg hwn oedd cyfnod Beirdd y Tywysogion – beirdd fel Cynddelw Brydydd Mawr (fl. 1155 – 1195) a  Gruffudd ab yr Ynad Coch (fl. 1277 – 1282) – a Beirdd yr Uchelwyr – pobl fel  Dafydd ap Gwilym (c.1315 –1370) a Iolo Goch (c.1325 – 1398).

Fel yn y cyfnod cynnar, roedd gan yr Eglwys Gristnogol rôl bwysig yn hanes yr iaith. Roedd yr urddau crefyddol newydd, yn enwedig yr abatai Sistersaidd, yn bwysig iawn; yn yr abatai yma roedd pobl yn cofnodi ac yn copio barddoniaeth a rhyddiaith y cyfnod.

Y Cyfnod Modern

Mae’r cyfnod modern yn para o tua 1536 tan ganol yr ugeinfed ganrif [20G].

Ym 1536 a 1542 pasiodd Harri VIII ddeddfau oedd yn gwneud Cymru yn rhan o Loegr a chollodd y Gymraeg ei statws a’i rôl fel iaith gweinyddu. O’r amser yma ymlaen dechreuodd yr uchelwyr fynd yn fwy Saesneg eu iaith a Seisnig eu hagwedd. Roedd y bobl gyffredin – y werin – yn dal yn Gymraeg eu hiaith tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ym 1588 cafodd y Beibl – ‘Beibl William Morgan‘ – ei gyhoeddi yn Gymraeg am y tro cyntaf a daeth iaith y Beibl yn safon ar gyfer Cymraeg ysgrifenedig tan yr ugeinfed ganrif. Roedd dylanwad Cristnogaeth, a’r eglwysi ymneilltuol yn enwedig, yn ffactor pwysig iawn i gadw’r iaith Gymraeg yn fyw fel iaith bob dydd.

Dechreuodd y Cymry ddod yn bobl lythrennog yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg [19G]; o 1870 roedd rhaid i blant 5-10 oed fynd i’r ysgol. Ond, am y rhan fwyaf o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, doedd y Gymraeg ddim yn rhan o gwricwlwm yr ysgol. Yn wir, roedd rhai ysgolion yn defnyddio’r ‘Welsh Not’ fel ffordd o rwystro plant rhag siarad y Gymraeg yn yr ysgol.

I’r ysgolion, ac i lawer o rieni hefyd, Saesneg oedd iaith dod ymlaen yn y byd. Y Saesneg oedd iaith gwaith, busnes a gweinyddu; hi hefyd oedd iaith yr Ymerodraeth Fawr Brydeinig.

Felly, er bod nifer fawr yn dal i siarad Cymraeg y tu allan i’r ysgol, doedden nhw ddim yn cael eu dysgu i ddarllen ac ysgrifennu’r iaith – os nad oedden nhw’n aelodau o gapel neu eglwys Gymraeg neu’n perthyn i gymdeithas fel yr Urdd. Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol a nifer fawr o eisteddfodau bach yn help mawr i gadw’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg yn fyw.

Cymraeg Cyfoes

O tua 1960 ymlaen, er bod nifer y bobl oedd yn gallu siarad Cymraeg yn mynd yn llai, roedd twf cenedlaetholdeb Cymreig a thwf y dosbarth canol Cymraeg yn help i gadw’r Gymraeg yn fyw. Roedd pobl yn dechrau gofyn am wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, am arwyddion Cymraeg ac am fwy o raglenni teledu a radio Cymraeg.

Roedd y Gymraeg yn cael ei dysgu fel mamiaith ac ail iaith yn yr ysgolion; ond nawr roedd mwy a mwy o bobl yn gofyn am addysg trwy gyfrwng, yn enwedig yn yr ardaloedd lle roedd y Gymraeg wedi colli tir. Mae twf BBC Radio Cymru ers y saithdegau ac S4C ers yr wythdegau wedi helpu i godi statws yr iaith.

Layout 1Heddiw mae mwy o ddiddordeb yn yr iaith ymhlith pobl o bob oed ac mae miloedd o bobl yn mynd ati i ddysgu’r iaith. Mae’r Gymraeg i’w gweld a’i chlywed lawer mwy ym mywyd pob dydd pobl Cymru ac yn enwedig ym myd addysg, ar y teledu a’r radio ac yn y byd cyhoeddus. Yn 2011 daeth deddf newydd sy’n rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg.

Mae’r Gymraeg mae pobl yn ei siarad ac yn ei hysgrifennu wedi newid yn fawr dros y 1500 mlynedd diwethaf. Ar un amser roedd nifer fawr o dafodieithoedd Cymraeg; heddiw mae nifer o eiriau ac ymadroddion tafodieithol yn dal i roi lliw i’r iaith ac mae pobl yn dal i ddefnyddio ffurfiau de a gogledd – iaith yr ‘Hwntws’ a iaith y ‘Gogs’.

Mae geiriau a thermau Saesneg yn dal i lifo i’r Gymraeg; y gamp ydy addasu’r termau neu greu termau newydd. Mae technoleg gyfoes hefyd wedi helpu pobl ym mhob rhan o Gymru i glywed ac i ddeall ei gilydd. Mae’r ifanc, fel ym mhob diwylliant, yn addasu’r iaith i’w hidiom eu hunain.

Wrth i dechnoleg cyfathrebu ddatblygu, bydd yn rhaid i’r iaith Gymraeg esblygu i’w gwneud ei hun yn iaith sy’n gallu bodoli yn yr unfed ganrif ar hugain.

Gadael Ymateb