Torri’r Garw

Ydych chi’n dysgu grwp newydd am y tro cyntaf, neu ydych chi angen gweithgaredd i godi egni’r grwp? Dyma rai syniadau i chi sydd wedi gweithio’n dda i fi mewn dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion. Mae’n bosib bydd nifer ohonyn nhw’n gweithio ar draws amryw o bynciau eraill hefyd.

 

Lefel Uwch / Hyfedredd. Disgrifio trwy luniau. Rhowch ddarn o bapur A4 i bob aelod o’r dosbarth. Gofynnwch iddyn nhw blygu’r papur yn ei hanner, ac yna yn ei hanner eto. Gofynnwch iddyn nhw agor y papur. Bydd 4 sgwar wedi’u marcio bellach ar y papur. Gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu’r penawdau canlynol – un i bob sgwar. Gwyliau; Swydd; Arwr; Ofn.

Rhannwch y dosbarth i barau. Gofynnwch iddyn nhw ofyn i’w partner beth fyddai eu gwyliau delfrydol. Rhaid i’r partner dynnu llun o’r gwyliau ar eu papur nhw (heb ddefnyddio geiriau!). Yna, newid rôl a gofyn i’r partner arall am eu gwyliau nhw.

Yna, ailadroddwch y weithgaredd gan drafod a thynnu llun swydd ddelfrydol; eu harwr; ac yn olaf, eu hofn mwyaf. Bydd yn gyfle i’r dosbarth ymarfer eu Cymraeg gan ddefnyddio amryw o ferfau gwahanol. Mae’n tynnu’r ofn oddi ar siarad yr iaith gan eu bod yn poeni fwy am dynnu llun ar y papur, a hefyd, mae’n gyfle i chwerthin a chael hwyl yn y dosbarth.

Mae’n bosib ymestyn y drafodaeth ymhellach ac os oes amser gall aelodau’r dosbarth gyflwyno eu lluniau a’r wybodaeth am eu partner gyda gweddill y dosbarth.

Pan ddefnyddiais y weithgaredd yma un tro gyda dosbarth hyfedredd, doedd un aelod o’r dosbarth ddim yn gallu tynnu llun o gwbl. Pan ofynnodd i’w bartner am ei ofn mwyaf ac atebodd yntau ‘ceffylau’, atebodd – “na, dw i ddim yn gallu tynnu llun ceffyl. Rhywbeth arall?” Aeth y ddau drwy nifer o bethau gwahanol tan iddyn nhw gytuno ei fod yn gallu tynnu llun neidr! Bu chwerthin mawr yn y dosbarth ac maen nhw’n dal i sôn am y neidr hyd heddiw!

 

Mynediad. Cwis – Hyd yn oed ar lefel Mynediad mae’n bosib cynnal cwis gyda’r dosbarth wrth ailadrodd patrymau. Dyma rai syniadau.

Yn gyntaf cyflwynwch ‘ble mae…’ a rhowch fap o Gymru ar y bwrdd. Cyflwynwch yr atebion posib – de / gogledd / gorllewin / dwyrain / canolbarth.

Rhai cwestiynau eraill – Beth ydy…? A’r ateb ffrwythau / llysiau; Pwy ydy…? Gan ddefnyddio clipiau sain caneuon gan fandiau o Gymru. Manic Street Preachers, Duffy, Mary Hopkin, Stereophonics, Tom Jones ayb.

I ymestyn y weithgaredd, neu i wneud noson gwis, defnyddiwch glipiau sain o raglenni teledu a gofyn i bawb – pa raglen? Rhaglenni fel y Newyddion, Cyw, Pobl y Cwm, Y Gwyll ayb.

Os hoffech gopi o’r PowerPoint ddefnyddiais rai blynyddoedd yn ôl, e-bostiwch acen.siop@gmail.com.

 

Unrhyw lefel. Toes. Defnyddiais y weithgaredd hwn yn wreiddiol gyda sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith a chyrsiau i ddechreuwyr pur ond mae’n bosib ei addasu ar gyfer lefel Uwch / Hyfedredd i greu pynciau trafod.

Rhowch bot o does i bob aelod o’r dosbarth. Gofynnwch iddyn nhw greu rhywbeth sy’n eu hatgoffa o Gymru neu’r Gymraeg. Ar ôl 5 munud gofynnwch iddyn nhw gyflwyno’u campwaith i weddill y dosbarth neu mewn grwpiau bach os oes llawer gyda chi yn y dosbarth.

Mae’n weithgaredd sy’n torri’r garw yn syth, yn creu teimlad o hwyl yn y dosbarth ac yn torri’r syniad o fod mewn gwers ysgol.

Dw i’n defnyddio’r toes hefyd gyda grwpiau Uwch / Hyfedredd gan ofyn iddyn nhw greu rhywbeth sy’n eu hatgoffa o le maen nhw’n dod yn wreiddiol.

Mae’n bosib prynu’r potiau bach yma. Maen nhw’n rhesymol iawn ac mae set yn byw yng nghist fy nghar! Maen nhw hefyd yn ddefnyddiol os oes rhiant yn dod a phlentyn i’r dosbarth yn ddirybudd.

 

Sylfaen i fyny. Stori ‘yn sydyn’. Dechreuwch stori gyda’r dosbarth. Rhowch frawddeg iddyn nhw sy’n gorffen gyda ‘yn sydyn’. Rhaid i aelod arall o’r dosbarth gario’r stori ymlaen gan ychwanegu frawddeg sy’n gorffen gyda ‘yn sydyn’. Mae’r weithgaredd yn gweithio’n well os ydych yn gadael i aelodau’r dosbarth gynnig brawddeg o’u dymuniad yn hytrach na mynd o gwmpas mewn cylch gan ei fod yn rhoi gormod o bwysau ac yn creu panig.

Rhai brawddegau i ddechrau: ‘Un tro ro’n i’n cerdded i lawr y stryd gyda fy nghi pan yn sydyn…’, ‘Ro’n i’n hwyr i’r dosbarth Cymraeg felly dechreuais i redeg i lawr y stryd,  yn sydyn…’

 

Mynediad i fyny, ‘Munud yn unig’. Mae’r weithgaredd hwn yn dda ar gyfer ymarfer siarad yn enwedig ar gyfer arholiad Mynediad a Sylfaen. Rhowch bynciau gwahanol ar ddarnau o gerdyn. Gofynnwch i bob aelod o’r dosbarth ddewis cerdyn. Rhowch 10 munud iddyn nhw wneud nodiadau / ysgrifennu sgript. Gan ddefnyddio amserydd wy, gofynnwch iddyn nhw siarad am eu pwnc am funud union. I ymestyn y weithgaredd, gofynnwch iddyn nhw ddewis cerdyn arall. Mae’n bosib prynu amseryddion deniadol yma yn rhesymol.

 

Pob lefel. Helfa Drysor. Mae helfa drysor wedi bod yn boblogaidd ers blynyddoedd. Erbyn heddiw, dyn ni’n gallu defnyddio technoleg i’w llawn botensial. Rhowch restr o bethau i’r dosbarth ddod o hyd iddyn nhw. Gallan nhw ddefnyddio unrhyw dechnoleg sydd ar gael – gliniadur / ffôn symudol / cyfrifiadur / iPad neu eu casglu a’u dwylo! Dyma rai pethau gallwch gynnwys.

Llun o ben moel; cyfeiriad Llyfrgell Genedlaethol Cymru; sbectol ddarllen; papur newydd; map o Gaerdydd; pensel; recordiad o ddau berson yn siarad Cymraeg a’i gilydd; fideo o ddrws agor a chau; 5 darn ceiniog…

Y pâr / grŵp cyntaf i ddychwelyd gyda phob eitem sy’n ennill. Gellir hefyd roi gwobr am yr eitem fwyaf doniol neu greadigol hefyd.

 

Pob lefel. Ymarfer geirfa. Fel pawb arall rwy’n siwr, rwyf yn ysgrifennu geirfa newydd sy’n codi yn y wers ar y bwrdd gwyn. Er mwyn ymarfer yr eirfa, rwyf yn gofyn i aelod o’r dosbarth ddewis un o’r geiriau a’i ddisgrifio i weddill y dosbarth heb ddefnyddio’r gair. Gellir gwneud y weithgaredd yn fwy anodd trwy ofyn i’r dosbarth wneud stori allan o’r eirfa hefyd. Pob aelod i ychwanegu brawddeg yn cynnwys un o’r geiriau. Mae hwn yn gweithio’n arbennig o dda pan mae llawer o eirfa wedi codi yn ystod y wers ac ar lefel Uwch a Hyfedredd.

 

Os oes mwy o syniadau gyda chi, rhowch wybod ac ychwanegaf nhw at y rhestr uchod. Ebostiwch acen.siop@gmail.com neu gadewch sylw yn y bocs isod.

 

Gadael Ymateb