Ydych chi’n mynd ar wyliau neu i ffwrdd o’ch gwaith am gyfnod? Dyma rai ymadroddion defnyddiol ar gyfer gosod neges ‘allan o’r swyddfa’ dwyieithog ar eich ebost.
Nid wyf yn y swyddfa ar hyn o bryd. | I’m not in the office at the moment. |
Byddaf yn ôl yn y gwaith ar … | I will be back at work on… |
Os yw’ch ymholiad yn un brys, cysylltwch â…. | If your enquiry is urgent, please contact… |
Anfonwch eich neges ymlaen at…. | Please forward your message to …. |
Ni fydd gennyf fynediad at fy ebost. | I won’t have access to my emails. |
Yr wyf i ffwrdd o’r swyddfa rhwng … a … | I’m away from the office between … and … |