Y Wlad

map_prydain_ac_iwerddonGwlad fach fynyddig ydy Cymru, sy’n rhan o Ynys Prydain. I’r gogledd, y gorllewin a’r de mae môr ac i’r dwyrain mae tir – Lloegr.

Cymru

Mae’r gair yn dod o’r iaith Frythoneg, mam yr iaith Gymraeg. “Combrogos” oedd y gair am gydwladwr neu “compatriot” – dyma’r gair sy wedi rhoi ‘Cymro’ i ni heddiw. “Combrogi” oedd yr enw am y bobl – Cymry i ni heddiw. Ar un amser, Cymry oedd enw’r wlad hefyd, ond newidiodd y gair i Cymru.

Mae’r enw Cumbria yn Lloegr yn dod o’r un gair hefyd. Roedd yr ardal yma, gyda gogledd-ddwyrain Lloegr a de’r Alban, yn rhan o’r Hen Ogledd – yr ardal lle roedd y “combrogi”, y Cymry, yn byw. Mae’r farddoniaeth Gymraeg gynharaf yn dod o’r Hen Ogledd.

Mae’r gair Lladin am Gymru, Cambria, hefyd yn dod o’r gair Brythoneg.

Wales

Mae’r gair yn dod o’r Eingl-Sacsoneg. Eu gair nhw am bobl Geltaidd oedd “walas” neu “wealas”. Yr ystyr oedd estroniaid. Mae’n bosib bod y gair yn dod o enw llwyth geltaidd yn Ewrop, y Volcae.

Mewn amser, daeth yr enw ar y bobl oedd yn siarad yr iaith Frythoneg yn enw ar y rhan yna o Brydain lle roedden nhw’n byw – Wales.

Gadael Ymateb