Ucheldir

ucheldirMae Cymru’n wlad o fynyddoedd a bryniau – a defaid!

Mae mwy o ddefaid yn byw yng Nghymru nag o bobl; a byd
dai rhai yn dweud bod rhai o’r defaid yn fwy craff na rhai pobl! Yn sicr, maen nhw’n fwy blasus na defaid o unrhyw le arall yn y byd…

Dydy mynyddoedd Cymru ddim mor uchel â mynyddoedd yr Himalaya a’r Alpau ond maen nhw’n llawer iawn hŷn ac mae’n llawer haws mynd i’w copaon. Ro’n nhw’n fynyddoedd uchel iawn ar un amser ond mae rhew a glaw wedi eu gwneud nhw’n llai dros filoedd o flynyddoedd.

Y mynydd uchaf ydy’r Wyddfa (1085m) sy yn y gogledd-orllewin ac os dych chi’n rhy hen neu’n anabl – neu’n rhy ddiog i gerdded – mae trên bach yn aros amdanoch yn Llanberis wrth droed y mynydd i fynd â chi i’r copa!

Mae’r Wyddfa yn rhan o fynyddoedd Eryri a dyma lle mae’r copau uchaf i gyd. Mae’r ardal hon yn llawn dyffrynnoedd, cymoedd a llynnoedd hudolus. Daeth Edmund Hillary a’i dîm i ymarrfer yma yn Eryri cyn dringo i ben Everest yn 1953.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ardal eang (2170 km²) sy’n ymestyn o arfordir y gogledd i lawr i’r Canolbarth ac aber Afon Dyfi ger Machynlleth.

???????????????????????????????????????????????????????????????????????

Yn y Canolbarth, mae Cadair Idris (893m) yn sefyll yn fawreddog dros aber Afon Mawddach a thref Dolgellau. I’r dwyrain, mae Bwlch y Groes (545m); dyma’r bwlch uchaf yng Nghymru – a’r mwyaf serth – y mae ceir yn gallu teithio drosto.

I lawr yn y de-orllewin mae ardal Bryniau Preseli; o’r ardal yma daeth cerrig glas Côr y Cewri – Stonhenge yn ne Lloegr dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymestyn dros ardal eang (1344 km²) ar draws de Cymru. Y mynydd uchaf yn y parc ydy Pen y Fan (886m).

Gadael Ymateb