Prydain ac Iwerddon

prydainaciwerddoncymDechreuodd llwythau Celtaidd symud i Ewrop i Brydain ac Iwerddon o tua 500 C.C.

Roedd y Celtiaid yma yn siarad dwy dafodiaith Geltaidd. Does neb yn siŵr oedd y ddwy dafodiaith wedi datblygu cyn neu ar ôl i’r Celtiaid gyrraedd yr ynysoedd yma. Yr enwau rydyn ni’n eu rhoi i’r ddwy dafodiaith ydy Goedeleg a Brythoneg. Roedd Goedeleg yn cael ei siarad gan Geltiaid Iwerddon a Brythoneg gan Geltiaid Prydain (ar wahân i ogledd yr Alban lle roedd y Pictiaid yn byw).

I dorri stori hir yn fyr… Daeth y Rhufeiniaid i Brydain yn 43 O.C.; arhoson nhw yma am 400 mlynedd cyn gadael tua 410 O.C. Dylanwad dros dro ar rannau o Brydain oedd dylanwad y Rhufeiniaid; lwyddon nhw ddim i newid iaith na ffordd o fyw y rhan fwyaf o Geltiaid yr ynys – Y Brythoniaid. Chawson nhw ddim dylanwad ar Iwerddon.

O’r bumed ganrif ymlaen dechreuodd pobl Germanaidd (yr Eingl-Sacsoniaid) symud i mewn i dde a dwyrain Prydain ac aros yma. Cafodd y bobl yma ddylanwad mawr ar fywyd Prydain, yn enwedig ar y de a’r dwyrain.

Erbyn i’r Normaniaid gyrraedd yn 1066 roedd Prydain wedi newid; yn y gogledd roedd pobl Yr Alban, yn y gorllewin roedd Celtiaid Cymru, yn y de-orllewin roedd Celtiaid Cernyw ac yn y de a’r dwyrain roedd pobl Lloegr neu England.

O’r drydedd ganrif ar ddeg ymlaen bu dylanwad Coron a Llywodraeth Lloegr ar weddill Prydain ac Iwerddon yn sylweddol; cafodd iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth y Saeson ddylanwad mawr ar iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth pobl Geltaidd yr ynysoedd yma.

Gadael Ymateb