Gwreiddiau

celticeuropemapMae Cymru’n aml yn cael ei galw’n wlad Geltaidd a’r Gymraeg yn un o’r ieithoedd Celtaidd. Ond pwy oedd y Celtiaid gwreiddiol?
Pobl Oes Haearn oedd y Celtiaid. Roedden nhw’n byw yng nghanolbarth Ewrop yn ystod y mileniwm cyntaf Cyn Crist. “Y Crud Celtaidd” ydy’r enw mae pobl yn ei roi i’r ardal lle roedd y Celtiaid cynnar yn byw; canol yr ardal hon oedd Awstria fodern (coch ar y map).

Roedden nhw’n byw mewn llwythau ac yn rhannu diwylliant tebyg. Roedden nhw’n siarad iaith neu dafodieithoedd “Celtaidd”.

Doedden nhw ddim yn galw eu hunain yn Geltiaid; roedd gan bob llwyth ei enw ei hun. Mae’r gair Celtiaid yn dod o’r gair Groeg “Keltoi”; gair sy’n golygu barbariaid.

Dros amser a dan bwysau oddi wrth pobloedd eraill yn Ewrop– yn enwedig y Rhufeiniaid a’r llwythau Germanaidd – symudodd llawer o’r llwythau Celtaidd i’r Dwyrain Canol (Galatia) ac i dde a gorllewin Ewrop (gwyrdd ar y map).

Traddodiad llafar oedd iaith a thafodieithoedd y Celtiaid cynnar; does dim cofnodion ysgrifenedig ar gael. Heddiw does neb heddiw yn siarad ieithoedd Celtaidd yn y Dwyrain Canol nac ar dir mawr Ewrop, heblaw am bobl Llydaw yng ngogledd-orllewin Ffrainc – ac o Brydain y daeth y siaradwyr yna yn wreiddiol.

Gadael Ymateb