Arfordir

coastMae gan Gymru arfordir hir – dros 1,200 cilometr – gan gynnwys yr ynysoedd.

I’r gogledd a’r gorllewin mae ardal eang Môr Iwerddon, i’r de-orllewin mae’r Môr Celtaidd ac i’r de mae Môr Hafren.

Mae’r arfordir yn amrywio’n fawr wrth deithio o un pen i’r wlad i’r llall – o draethau melyn hir i faeau bach hudolus ac o glogwyni uchel i aberoedd bach a llydan. Mae gwarchodfeydd natur ar hyd llawer o arfordir y wlad ac mae’r môr yn y de-orllewin yn warchodfa natur forol.

Mae Penrhyn Llyn yn y gogledd a Bro Gwyr yn y de yn ardaloedd o harddwch naturiol arbennig. Arfordir y de-orllewin ydy trydydd parc cenedlaethol Cymru – Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Yn y gogledd-ddwyrain mae aber lydan Afon Dyfrdwy yn eitha bas erbyn heddiw ac mae’n gartref i bob math o adar môr. Yn y de ddwyrain mae Môr Hafren yn ddwfn ac mae lefel y dwr yn codi a disgyn yn ddramatig ddwywaith bob dydd. Dyma lle mae’r ‘Eger Hafren’ enwog – y ‘Severn Bore’.

Ar un adeg roedd nifer o borthladdoedd prysur ar hyd yr arfordir yn cludo nwyddau i ac o Gymru i bob rhan o’r byd. Mae Dociau Caerdydd yn dal yn brysur ac mae Aberdaugleddau yn y de-orllewin yn borthladd olew prysur. Mae porthladdoedd fferi rhwng Cymru ac Iwerddon yng Nghaergybi yn y gogledd-orllewin ac yn Abergwaun a Doc Penfro yn y de-orllewin.

Bwa Gwyn Sea Arch (near Rhoscolyn) Isle Of Anglesey Aerial North Scenery

Ynys fwyaf Cymru ydy Môn – Mam Cymru; hi oedd canolfan derwyddon Prydain cyn i’r Rhufeiniaid eu lladd yn y flwyddyn 60 Oed Crist. Cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr unig ffordd i groesi i Ynys Môn oedd mewn cwch ar draws y Fenai – y culfor peryglus rhwng Môn a’r tir mawr.

Roedd nifer o’r ynysoedd bach o gwmpas yr arfordir yn gartref i’r saint Celtaidd rhwng y pumed a’r seithfed ganrif. Ynys fwyaf sanctaidd Cymru ydy Ynys Enlli oddi ar Benrhyn Llŷn; yn ôl y stori mae 20,000 o saint wedi’u claddu yma. Mae ynysoedd bach fel Ynys Seiriol yn y gogledd a Sgomer yn y de-orllewin yn warchodfeydd natur.

Gadael Ymateb