Afonydd

map-afonydd-bachGwlad y dŵr a’r glaw – dyna Gymru!

Mae afon hiraf Prydain – Afon Hafren – yn cychwyn yma ac mae dwy arall – Afon Dyfrdwy yn y gogledd ac Afon Gwy yn y de – yn ffurfio’r ffin â Lloegr.

Afon hiraf Cymru ydy Afon Tywi; mae hi’n 121 cilometr (75 milltir) o hyd. Mae hi’n codi ym mynyddoedd y Canolbarth ac yn rhedeg tua’r de ac i’r môr ger hen dref Caerfyrddin.

Mae Afon Teifi yn enwog am eog a brithyll a sewin ac am bystota mewn cwrwgl, Afon Conwy am ei harddwch ac Afon Tryweryn fel lle gwych i ganŵio a rafftio dŵr gwyllt.

Dydy Afon Taf ddim yn afon hir nac yn afon hardd ond hi ydy’r afon sy’n rhedeg drwy ganol y brifddinas – Caerdydd.

Pistyll Rhaeadr Waterfalls North East Scenery

I’r rhai sy am weld y dŵr yn tasgu dros y creigiau, mae ’na raeadr, sgwd neu bistyll ym mhob rhan o’r wlad. Mae Pistyll Rhaeadr – ger Llanrhaeadr ym Mochnant, Powys –yn un o ‘Saith Rhyfeddod Cymru’. ‘Bro’r Rhaedrau’ ydy’r enw ar ardal Ystradfellte, Powys; yma mae cyfres o raeadrau hyfryd ar afonydd Mellte a Nedd.

Yn y Bannau mae cyfle i brofi effaith y dŵr ar y tirlun mewn twnelau tanddaearol. Yma hefyd, ger pentref Abercraf, mae ogofau enwog Dan yr Ogof.

 

Gadael Ymateb