Dewi Sant

1af o Fawrth, 589 O.C.

Ar y cyntaf o Fawrth, 589 O.C, bu farw’r Archesgob Dewi yn dawel yn ei gartref yn Nhyddewi, Dyfed.

Mae hanes yr Archesgob yn un diddorol. Roedd ei fam yn lleian o’r enw Non. Penderfynodd na fyddai byth yn priodi ond cafodd ei threisio gan frenin Ceredigion, Sant mab Ceredig. Wedi geni’r plentyn aeth Non, oedd yn nith i’r brenin Arthur, i fyw bywyd pur a syml ar ei phen ei hun. Gwrthododd fwyta unrhyw beth ond dŵr a bara.

Anfonwyd Dewi, ei mab, yn gyntaf i Aberaeron ac wedyn i Landdeusant i gael ei ddysgu gan athro enwog, Paulinius. Yn fuan, dechreuodd ar ei waith cenhadu – gan deithio trwy Dde Cymru a gorllewin Lloegr a sefydlu canolfannau allweddol fel Ynys Wydrin (Glastonbury) a Croyland. Yn nes ymlaen, dychwelodd i Dyddewi ac er gwaetha anghydfod ffyrnig a gweadlyd â’r tywysog Boia o Iwerddon, llwyddodd i sefydlu canolfan newydd a ddaeth yn bencadlys yr Eglwys yng Nghymru.

Roedd Dewi wedi cael ei wneud yn Archesgob yn ystod ei bererindod i Jerwsalem gyda’i gydgenhadon Teilo a Padarn.

Bydd Dewi yn cael ei gofio yn arbennig am ei wyrth yn Llanddewibrefi pan gododd y tir dan ei draed mewn cyfarfod cyhoeddus i bawb gael ei glywed.