Calan Gaeaf

Calan Gaeaf

Calan Gaeaf ydy diwrnod cyntaf y gaeaf (1af o Dachwedd). Mae’r noson cyn Calan Gaeaf (31ain o Hydref) yn cael ei galw yn Noson Galan Gaeaf neu Ysbrydnos – pan mae’r ysbrydion yn dod allan.

Yn wreiddiol, roedd hi’n ŵyl Baganaidd lle roedd pobl yn dathlu diwedd yr haf a diwedd yr hen flwyddyn. Roedd pobl yn meddwl bod y bwlch rhwng y byw a’r meirw yn agos iawn ar y noson hon a bod ysbrydion yn gallu croesi i’r ochr byw.

Mae llawer iawn o draddodiadau Celtaidd yn perthyn i Noson Calan Gaeaf. Dyma rai ohonynt:

Roedd pobl yn gwisgo masgiau ar Noson Calan Gaeaf er mwyn cadw’r ysbrydion drwg i ffwrdd. Dyma pam mae pobl yn gwneud wynebau cas mewn pwmpenni heddiw ac yn eu rhoi yn ffenest neu ddrws y tŷ.

Doedd pobl ddim yn cynnau tân yn eu tai ar Noson Calan Gaeaf, rhag ofn y byddai’r ysbrydion yn teimlo’n gartrefol ac eisiau aros!

Traddodiad arall oedd gwneud coelcerth. Roedd pob aelod o’r teulu yn rhoi marc ar garreg wen ac yna’n taflu’r garreg i’r tân. Os oedd un o’r cerrig ar goll y diwrnod wedyn, roedd yn golygu y byddai rhywun yn marw yn ystod y flwyddyn.

Roedd ‘Twco Fale’ (Apple Bobbing) hefyd yn boblogaidd, lle roedd merched yn ceisio tynnu afal allan o twba o ddŵr gan ddefnyddio eu dannedd yn unig. Y ferch gyntaf i gael afal allan oedd yn mynd i briodi nesaf.

Mae llawer o sôn o gwmpas Cymru am Ladi Wen – ysbryd merch yn gwisgo gwyn, neu’r Hwch Ddu Gwta – mochyn du heb gynffon.

Ydych chi wedi clywed am stori neu draddodiad arall yn eich ardal chi?

 

Geirfa

gaeaf – winter
ysbrydion – ghosts
gŵyl Baganaidd – Pagan festival
bwlch – gap
y meirw – the dead
traddodiadau – traditions
pwmpen /-ni – pumpkin /-s
cynnau tân
– to light a fire
coelcerth – bonfire